P-05-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a
safoni asesiadau swyddogol haf 2021, Gohebiaeth – Deisebydd i'r
Pwyllgor, 26.02.22
DEISEB
P-06-1228
- mae'n amlwg bod
Cymwysterau Cymru wedi derbyn adroddiad y cwmni ymchwil a'u
darganfyddiadau llawn.
- mae Cymwysterau
Cymru felly yn cydnabod y llwyth gwaith cynyddol a oedd ar athrawon
yn Haf 2021, a bod rhai athrawon wedi colli incwm fel
arholwyr.
- codir y pwynt
ganddynt fod anghysondebau yn yr amser a neilltuwyd i raddio a
phennu graddau wedi amrywio o ysgol i ysgol ac o ran statws yr
athro a hynny felly wedi ychwanegu at y baich gwaith.
- gan fod
Cymwysterau Cymru wedi derbyn yr adroddiad ac yn medru dyfynnu
ohono, pam felly ydy'r proffesiwn a'r cyhoedd yn gorfod aros tan
fis Mai iddo gael ei gyhoeddi yn swyddogol, ar ddechrau y tymor
arholiadau? Oes yna agenda cudd o ryw fath, i'w gyhoeddi yn dawel
pan fo athrawon yn rhy brysur i'w ddarllen a chorddi? Mae gorfod
aros mor hir am yr adroddiad yn hollol annerbyniol yn fy marn i.
Dylai Cymwysterau Cymru gyhoeddi'r adroddiad nawr ac fe ddylech chi
fynnu eu bod nhw, gan eu bod yn atebol i chi.
- efallai bod y
system yn Yr Alban o dalu'r bonws wedi bod yn un gymhleth ond mae'n
ddigon clir - dylai unrhyw athro a oedd yn gorfod marcio, safoni,
cymedroli TGAU, AS, a Lefel A tu hwnt i'w gofynion ac oriau gwaith
statudol dderbyn bonws fel ad-daliad am y baich gwaith ychwanegol.
Dim ond ddoe ar 'Work Your Proper Hours Day' 25/2/22, datgelwyd yr
ystadegau canlynol i'r cyhoedd,
' According to
an analysis by the TUC, 31% of UK teachers did unpaid overtime in
2021, up from 25% in 2020. The average weekly unpaid hours for
teachers doing overtime rose from 10.7 in 2020 to 11.2 in
2021'.
·
Ydy Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg
a'r Gymraeg wedi darllen yr adroddiad ar y baich gwaith ar athrawon
yn Haf 2021? Beth yw ei farn?